Am Kyffin

Yn ystod 2018 byddwn yn ddathlu canmlwyddiant geni Syr Kyffin ar Fai 9fed 1918. Bu’r cawr artistig Kyffin Williams yn hynod gynhyrchiol gan beintio yn ddi-dor am gyfnod o 60 mlynedd. Bu farw yn wythdeg wyth mlwydd oed ar Fedi 11 2006 yng nghartref gofal Sant Tysilio nid nepell o’i gartref, Pwllfanogl, Llanfair P.G., Ynys Môn.

Syr Kyffin Williams oedd arlunydd mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol Cymru erioed. Anrhydeddwyd ef yn 1999 trwy ei urddo yn Farchog. Bu’n Llysgennad i’r celfyddydau yng Nghymru, cynorthwyodd ei gyd arlunwyr a bu’n gefn i ymdrechion i sefydlu orielau celf yng Ngogledd a De Cymru.

Cyfrifir ef yn un o gymwynaswyr mawr Cymru, cyflwynodd ei gasgliad o’i beintiadau, o bobl, tirwedd, anifeiliaid, adar a blodau’r Wladfa i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ffrwyth ei ymweliad hynod o lwyddiannus â Phatagonia yn 1968/69. Yn y Llyfrgell Genedlaethol y cedwir y casgliad mwyaf yn y byd o’i weithiau. Bydd ei gyfeillion yn y Wladfa yn sicr yn dathlu’r canmlwyddiant.

Rhoddodd Syr Kyffin hefyd rôdd anrhydeddus o dros bedwar cant o’i beintiadau i Oriel Môn yn Llangefni, y dref lle’i ganed, casgliad amghrisiadwy. Sefydlwyd Oriel Kyffin Williams, yr Oriel er côf amdano, yn 2008, yn rhan o Oriel Môn a gwelir pencampweithiau Syr Kyffin ac arlunwyr eraill ynddi.

Dywedodd David Meredith Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “Yr ydym yn ymfalchio fel Ymddiriedolaeth ein bod yn gallu bod o gymorth i roddi arweiniad yn y paratoadau â’r dathliadau i ddathlu canmlwyddiant Syr Kyffin, arlunydd sy’n deilwng o’n ymdrechion eithaf. Carem ddiolch i’r galeriau a’r sefydliadau a’r cwmniau sy’n cymeryd rhan yn y dathliadau.”