Kyffin yn China
Ar Ebrill 18 yn ninas Xi`an yn China bu Anita Ma yr arlunydd ac awdur yn lansio ei llyfr ar fywyd a gwaith Syr Kyffin Williams-hwn yw’r llyfr cyntaf yn y byd i’w gyhoeddi mewn Mandarin ynglŷn â gwaith prif arlunydd Cymru’r ugeinfed ganrif. Dywedodd David Meredith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, “braint fawr i mi oedd cael cynorthwyo Anita Mai lansio ei llyfr yn Xi`an-wrth i Anita gyflwyno gwaith yr athrylith John Kyffin i gynulleidfa newydd yn China”